Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Environment and Sustainability Committee
|
|
|
25 Gorffenaf 2014 |
Annwyl Gyfaill
Mae
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn cynnal ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion
organig.
Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried yr effeithiau
posibl ar Gymru yn wyneb cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer
Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynhyrchu organig a labelu
cynhyrchion organig a'r cynigion a wnaed yn y Cynllun
Gweithredu ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.
Cylch gorchwyl
Bydd yr ymchwiliad yn:
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.
Byddwn yn cynnal sesiwn tystiolaeth lafar ar 13
Tachwedd 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich
cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad
i wneud hynny.
Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn
ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol
gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn
iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad
inni gyhoeddi eich tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain
neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn
Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â
pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion
dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol
â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni
i PwyllgorAC@cymru.gov.uk.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor,
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA.
Dylai cyflwyniadau o dystiolaeth gyrraedd erbyn 24 Hydref
2014,
ac yn ddelfrydol ni ddylent fod yn hirach na 3,000 o
eiriau o hyd, dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth
mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw
ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dylai cyflwyniadau
dechrau gyda chrynodeb gweithredol, gan ddefnyddio pwyntiau bwled i
nodi prif bwyntiau a dylent cael ei wneud mewn un ddogfen. Os
oes unrhyw atodiadau, dylid eu cynnwys yn yr un ddogfen.
Datgelu Gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio
eich gwybodaeth yn
www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y
manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r
Pwyllgor.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd